Cofnodion o Gyfarfod Grŵp Trawsbleidiol Gogledd Cymru yn Senedd Cymru
Dydd Gwener, 14 Gorffennaf 2023
Yn Bresennol
Aelodau o’r Senedd:
Mark Isherwood (Cadeirydd), Ken Skates, Llyr Gruffydd, Darren Millar, Gareth Davies a Rhun ap Iorwerth
Arweinwyr Awdurdodau Lleol:
Y Cynghorydd Charlie McCoubrey (Conwy), y Cynghorydd Jason McLellan (Sir Ddinbych), a’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Gwynedd),
Siaradwyr:
Shanker Singham, Prif Weithredwr, Competere
Ian Davies, Pennaeth Awdurdod Porthladdoedd y DU, Stena Line
Christian Branch, Pennaeth Gwasanaeth (y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), Cyngor Sir Ynys Môn
Y Cynghorydd Gary Pritchard, Ynys Môn
Swyddogion:
CLlLC:
Chris Llewelyn (Prif Weithredwr), Lucy Sweet (Ysgrifennydd Grŵp), Dilwyn Jones
(Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus)
Llywodraeth Cymru:
Wendy Boddington
Uchelgais Gogledd Cymru
Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio
Trafnidiaeth Cymru:
Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Gogledd Cymru
Alex Fortune
Camau y Cytunwyd Arnynt
· Gwahodd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru i gyfarfod yn y dyfodol o’r Grŵp Trawsbleidiol (maent newydd gwblhau eu hadroddiad interim ac wedi cyfarfod â’r Asau).
· Gwahodd Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru, Jan Chaudhry van der Veldr, i fynychu cyfarfod yn y dyfodol o’r Grŵp Trawsbleidiol i siarad am heriau gweithredol i ddarparu gwasanaethau rheilffordd yng Ngogledd Cymru, yn arbennig y rheiny sy’n effeithio Llinell y Gororau Wrecsam i Bidston.
· Anfon llythyr dilynol i Drafnidiaeth Cymru ynghylch opsiynau tocyn tymor, lleihau ffioedd yng Ngogledd Cymru a lleoliad staff uwch a staff gweithredol yng Ngogledd Cymru sy’n debyg i’r rhai sy’n De Cymru (Gofyn i Drafnidiaeth Cymru i adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf o’r Grŵp Trawsbleidiol)
· Grŵp Trawsbleidiol i roi pwysau ar y Llywodraeth ynghylch penderfyniad Porthladd Caergybi.
· Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol i drefnu cyfarfod gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i drafod rhaglen waith y grŵp (cyn y cyfarfod nesaf).
1. Croeso gan y Cadeirydd a Chyflwyniadau (13-13:05)
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Chwefror a 19 Mai 2023 a Materion yn Codi
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.
Porthladdoedd Rhydd
3. Cyflwyniad gan y Bwrdd Llywodraethu Porthladd Rhydd Ynys Môn
Atodwyd sleidiau’r cyflwyniad gyda’r cofnodion
Pwyntiau allweddol:
· Porthladd rhydd yn cael ei reoli gan un awdurdod lleol, Ynys Môn, sydd yn unigryw os edrychwch ar borthladdoedd rhydd eraill.
· Roedd yn gynnig rhanbarthol a bydd manteision i Ogledd Cymru ar y cyfan.
· Statws porthladdoedd rhydd wedi’i sicrhau, ond mae dal llawer iawn o waith i’w wneud.
· Cam nesaf - achos busnes i’r ddwy lywodraeth erbyn diwedd y flwyddyn.
Cwestiynau
A oes dadansoddiad o fanteision economaidd gan Awdurdod Lleol Gogledd Cymru? (Gareth Davies AS)
Wedi defnyddio grŵp modelu economaidd i gynllunio gweithgaredd economaidd, nid yw’r rhif swyddi o 13,000 yn benodol ar gyfer Ynys Môn.
Does gennym ddadansoddiad yn ôl cyngor, bydd yn ddibynnol ar systemau eco sydd yn bodoli yn y porthladd rhydd.
Cludo Nwyddau ar y Rheilffordd - a oes unrhyw drafodaethau eisoes ynghylch cludo gan ddefnyddio’r porthladd? (Alex Fortune, Trafnidiaeth Cymru)
Does dim llawer o dir yn y porthladd, yn edrych i ddefnyddio’r pen rheilffordd i ychwanegu gwerth ac mae llawer o ddiddordeb wedi bod. Un prosiect sy’n cael sylw yw mewnforio agregau ar raddfa.
Bydd hyn yn ffrwd waith Cludiant - bydd ymgysylltiad gyda rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru.
Sut bydd y Bwrdd Rheoli yn ymgysylltu gyda’r partneriaid cyflawni perthnasol megis Trafnidiaeth Cymru a Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru? (Mark Isherwood)
Gweld y porthladd rhydd yn gyfle i Ogledd Cymru ar y cyfan.
Eisoes yn berthynas gyfredol gyda’r fargen dwf, gellir rhagweld rôl o fewn y strwythur llywodraethu ar gyfer y fargen dwf.
Mae pob math o borthladdoedd rhydd o amgylch y byd, nid yw pob un yn rai da, sut i sicrhau y bydd hwn yn fanteisiol yn hytrach na phroblem fawr iawn? A fydd prosesau modern a llywodraethu cadarn? A fydd swyddi yn cael effeithiau lleol? A fydd darparwyr FE yn rhwym i’r uchelgeisiau?(Rhun ap Iorwerth)
Mae gan borthladdoedd rhydd da gydymffurfiaeth well - bydd parth glân OECD ayyb yn hanfodol i ddatblygiad.
Wedi anelu at ddatblygiad cynaliadwy, cyflogaeth hirdymor i bobl. Ffocysu ar yrru addysg a sgiliau. Academi Tollau a Masnachu Cymru yn Ynys Môn.
Mae’r ddwy Lywodraeth yn gyrru ar gyfer cynrychiolwyr lleol, cenedlaethol a rhanbarthol ar y bwrdd llywodraethu.
Pa fath o rif gwaith ydym yn drafod? (Rhun ap Iorwerth) Ac a ydynt yn swyddi ychwanegol yn unig? (Ken Skates)
Byddwn yn gallu darparu gwybodaeth bellach ymhellach ymlaen yn y broses.
Byddant, swyddi ychwanegol yn unig, nid dadleoliad swydd yn unig.
Effaith ar Rosgoch? (Rhun ap Iorwerth)
Mae Rhosgoch yn ased o ran hen linell rheilffordd.
O safbwynt y cyngor, dylid dod â’r hen linell yn ôl yn weithredol.
Llawer o enghreifftiau drwg o borthladdoedd rhydd, yn ceisio dysgu gwersi o’r enghreifftiau hynny.
Cysylltedd Rheilffordd
4. Diweddariad a thrafodaeth ar gamau gweithredu o’r cyfarfod ar 19 Mai
Rhoddodd Stephen Jones, Tasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi (Ysgrifennydd y Bwrdd) ddiweddariad ar lythyrau a anfonwyd ac ymatebion a dderbyniwyd gan Drafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ers y cyfarfod diwethaf o’r Grŵp Trawsbleidiol Gogledd Cymru.
Mae’n bwysig ymgyrchu gyda gofynion o ran cost, aros tan yr Hydref, bydd Trafnidiaeth Cymru yn mynd drwy nifer o brosesau ac efallai byddwn yn ddigon ffodus i gael llif o welliant rhwydwaith rheilffordd ac ymateb posibl i’r adolygiad cysylltedd erbyn hynny.
Cwestiynau:
Problem gynyddol yw diffyg dibynadwyedd. Angen gwell ddealltwriaeth gan Drafnidiaeth Cymru ynghylch pa gamau gweithredu sy’n cael eu gwneud yn y tymor byr i fynd i’r afael â materion difrifol (Darren Millar AS).
A ellir cael tocynnau tymor o ryw fath ar gyfer Gogledd Cymru? (Darren Millar AS)
Cam gweithredu - Gwahodd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru i gyfarfod yn y dyfodol - maent newydd gwblhau eu hadroddiad interim ac wedi cyfarfod â’r Asau.
Trafnidiaeth Cymru - mae llawer o waith yn mynd rhagddo, ond yn deall nad yw’r sefyllfa yn ddigon da.
Mater tocyn tymor - bydd yn pasio ymlaen i gydweithwyr sydd yn edrych ar docynnau a refeniw.
Cam Gweithredu - Gwahodd Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru, Jan Chaudhry van der Veldr, i fynychu cyfarfod yn y dyfodol o’r Grŵp Trawsbleidiol i siarad am heriau gweithredol o ddarparu gwasanaethau rheilffordd yng Ngogledd Cymru, yn arbennig y rheiny sy’n effeithio Llinell y Gororau Wrecsam i Bidston.
5. Y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru
Rhoddodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru ddiweddariad byr ar waith Uchelgais Gogledd Cymru, gan ffocysu ar brosiectau ar restr fer ac wedi’u tynnu’n ôl, a chynnydd y prosiectau presennol.
Cam Gweithredu- Mae penderfyniad porthladd Caergybi yn rhwystr mawr. Y Grŵp Trawsbleidiol i roi pwysau ar y Llywodraeth.
6. Unrhyw Fater Arall
Cyfarfod nesaf ym mis Hydref neu Dachwedd, dyddiad i’w gadarnhau